Telerau ac amodau

Gwybodaeth bwysig ynglŷn â defnyddio’r safle hon

Mae’r dudalen hon (ynghyd â’r dogfennau y cyfeirir atynt arni) yn dweud wrthych beth yw telerau defnydd ein gwefan (360.cymru), p’un ai fel gwestai neu ddefnyddiwr cofrestredig. Noder at ddibenion y telerau defnydd hyn, nid yw “ein safle” yn cynnwys y tudalennau ar ein safle sy’n cael eu darparu gan ein partneriaid ac nid yw’r telerau defnydd hyn yn berthnasol i’r tudalennau hynny.

Darllenwch y telerau hyn yn ofalus cyn dechrau defnyddio’r safle. Trwy ddefnyddio ein safle, rydych yn dangos eich bod yn derbyn y telerau defnydd hyn a’ch bod yn cytuno i ufuddhau iddynt. Os nad ydych yn cytuno â’r telerau defnydd hyn, peidiwch â defnyddio ein safle.

Gwybodaeth amdanom ni

Mae 360.cymru yn safle sy’n cael ei gweithredu gan Golwg Cyfyngedig (“Ni”). Rydym yn gofrestredig yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 06692519 ac mae ein swyddfa gofrestredig a’n prif swyddfa masnachu yn Unedau 9, 10, 11 Parc Menter Llambed, Ffordd Tregaron, Llanbedr Pont Steffan SA48 8LT. Ein rhif TAW yw 941 9611 14.

Cael mynediad i’n gwefan

Caniateir mynediad i’n gwefan dros dro, ac rydym yn cadw’r hawl i dynnu’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu ar ein safle yn ôl neu ei ddiwygio heb rybudd (gweler isod). Os nad yw ein gwefan ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm, ni fyddwn yn atebol am hynny.

O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn cyfyngu mynediad i rai rhannau o’n safle, neu ein safle cyfan, i ddefnyddwyr sydd wedi cofrestru gyda ni.

Os ydych yn dewis, neu yn cael, cod adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth fel rhan o’n gweithdrefnau diogelwch, mae’n rhaid i chi drin gwybodaeth o’r fath yn gyfrinachol, ac ni ddylech ei datgelu i unrhyw drydydd parti. Mae gennym yr hawl i anablu unrhyw god adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, p’un a yw wedi ei ddewis gennych chi neu wedi ei ddyrannu gennym ni, ar unrhyw adeg, os byddwch, yn ein barn ni, wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un o’r darpariaethau yn y telerau defnydd hyn.

Wrth ddefnyddio ein gwefan, mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’r darpariaethau yn ein polisi defnydd derbyniol.

Rydych yn gyfrifol am wneud yr holl drefniadau sydd yn angenrheidiol i chi gael mynediad i’n safle. Rydych hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl bobl sy’n cael mynediad i’n gwefan trwy eich cyswllt rhyngrwyd chi yn ymwybodol o’r telerau hyn, a’u bod yn cydymffurfio â hwy.

Hawliau o ran eiddo deallusol

Ni yw perchennog neu ddaliwr trwydded yr holl hawliau eiddo deallusol ar ein safle, ac yn y deunydd a gyhoeddir arni, oni nodir yn wahanol. Mae’r gweithiau hynny’n cael eu diogelu gan gyfreithiau hawlfraint a chytundebau ar draws y byd. Cedwir yr holl hawliau o’r fath.

Ni allwch addasu copïau papur na digidol o unrhyw ddeunyddiau yr ydych wedi eu hargraffu neu eu lawrlwytho mewn unrhyw ffordd.

Mae’n rhaid cydnabod ein statws (a statws unrhyw gyfranogwyr a nodir) fel awduron deunydd ar ein safle bob amser.

Ni allwch ddefnyddio unrhyw ran o’r deunyddiau ar ein safle at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni neu ein trwyddedwyr.

Os ydych yn argraffu, copïo neu lawrlwytho unrhyw ran o’n safle gan dorri’r telerau defnydd hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio’n gwefan yn dod i ben ar unwaith ac mae’n rhaid i chi, yn ôl ein dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o’r deunyddiau yr ydych wedi eu gwneud.

Dibyniaeth ar wybodaeth wedi ei phostio

Nid yw sylwadau a deunyddiau eraill sydd wedi eu postio ar ein safle wedi eu bwriadu i fod yn gyngor y dylid dibynnu arno. Rydym felly yn gwrthod unrhyw atebolrwydd a chyfrifoldeb sy’n deillio o unrhyw ddibyniaeth a roddir ar ddeunyddiau o’r fath gan unrhyw ymwelydd â’n safle, neu gan unrhyw un a allai gael ei hysbysu o’u gynnwys.

Mae ein safle yn newid yn rheolaidd

Ein nod yw diweddaru ein safle yn rheolaidd, a gallwn newid y cynnwys ar unrhyw bryd. Os yw’r angen yn codi, gallwn atal dros dro eich mynediad i’n safle, neu ei gau am gyfnod amhenodol. Gall unrhyw ddeunydd ar ein safle fod wedi dyddio ar unrhyw adeg, ac nid oes unrhyw rwymedigaeth arnom i ddiweddaru deunydd o’r fath.

Ein hatebolrwydd

Darperir y deunydd a ddangosir ar ein safle heb unrhyw sicrwydd, amodau na gwarantau o ran ei gywirdeb. I’r graddau a ganiateir yn ôl y gyfraith, rydym ni a thrydydd partïon sy’n gysylltiedig â ni trwy hyn yn eithrio yn ffurfiol:

  • Yr holl amodau, gwarantau a thelerau eraill a allai fel arall gael eu cyfleu gan statud, y gyfraith gyffredin neu gyfraith ecwiti.
  • Unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu niwed uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol a achoswyd gan unrhyw ddefnyddiwr mewn cysylltiad â’n safle neu mewn cysylltiad â defnyddio, anallu i ddefnyddio, neu ganlyniadau defnyddio ein safle, unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig ag ef ac unrhyw ddeunyddiau sydd wedi eu postio arno, yn cynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw atebolrwydd am:
    • golli incwm neu refeniw;
    • colli busnes;
    • colli elw neu gontractau;
    • colli cynilion a ragwelwyd;
    • colli data;
    • colli ewyllys da;
    • gwastraff rheolaeth neu amser swyddfa; ac
    • am unrhyw golled neu niwed arall o unrhyw fath, sut bynnag y mae’n codi a ph’un a yw wedi ei achosi gan gamwedd (yn cynnwys esgeulustod), torri contract neu fel arall, hyd yn oed os gellid ei ragweld.

Nid yw hyn yn effeithio ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu niwed personol sy’n deillio o’n hesgeulustod, na’n hatebolrwydd am gamddehongli twyllodrus neu gamddehongli, nac am unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio na’u gyfyngu yn unol â chyfraith berthnasol.

Gwybodaeth amdanoch chi a’ch ymweliadau â’n safle

Rydym yn prosesu gwybodaeth amdanoch chi yn unol â’n polisi preifatrwydd. Trwy ddefnyddio ein safle, rydych yn rhoi eich caniatâd i brosesu o’r fath ac yn gwarantu bod yr holl ddata a ddarperir gennych chi yn gywir.

Firysau, hacio a throseddau eraill

Ni allwch gamddefnyddio ein safle trwy gyflwyno yn ymwybodol firysau, ceffylau troea, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sydd yn faleisus neu’n niweidiol yn dechnegol. Ni allwch geisio cael mynediad heb awdurdod i’n safle, y gweinydd lle mae ein safle wedi ei storio nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur na chronfa ddata sy’n gysylltiedig â’n safle ni. Ni allwch ymosod ar ein safle trwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth nac ymosodiad gwasgaredig gwrthod gwasanaeth.

Trwy dorri rheolau’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd yn unol â Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn hysbysu’r awdurdodau perthnasol sy’n gyfrifol am orfodi’r gyfraith ynghylch toramod o’r fath, a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny trwy ddatgelu pwy ydych iddyn nhw. Os digwydd tor amod o’r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio ein safle yn dod i ben ar unwaith.

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu niwed a achosir gan ymosodiad gwasgaredig gwrthod gwasanaeth, firysau neu ddeunydd arall sydd yn dechnegol niweidiol a allai heintio eich offer cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadurol, data neu ddeunydd perchnogol arall oherwydd eich defnydd o’n safle neu wrth lawrlwytho unrhyw ddeunydd sydd wedi ei bostio arno, neu ar unrhyw wefan sydd yn gysylltiedig ag ef.

Cysylltu â’n safle

Gallwch greu cyswllt â’n hafan, cyhyd â’ch bod yn gwneud hynny mewn modd sydd yn deg ac yn gyfreithiol ac nad yw’n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno, ond ni ddylech sefydlu cyswllt mewn ffordd sydd yn awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu ardystiad ar ein rhan ni pan nad oes un yn bodoli.

Dolenni o’n gwefan

Pan fydd ein safle yn cynnwys dolenni i safleoedd ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd partïon, darperir y dolenni hyn er gwybodaeth i chi yn unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y safleoedd na’r adnoddau hynny, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nac am unrhyw golled neu niwed a allai ddeillio o’u defnyddio.

Tudalennau ein partneriaid

Darperir tudalennau ein partneriaid er gwybodaeth i chi yn unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y tudalennau na’r adnoddau hynny, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nac am unrhyw golled neu niwed a allai ddeillio o’u defnydd gennych chi.

Awdurdodaeth a chyfraith berthnasol

Bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth gyfyngol dros unrhyw honiad sy’n deillio o neu sy’n gysylltiedig ag ymweliad â’n safle. Mae’r telerau defnydd hyn wedi eu llywodraethu gan gyfreithiau cyfraith Cymru a Lloegr.

Amrywiadau

Fe allwn adolygu’r telerau defnydd hyn ar unrhyw adeg trwy ddiwygio’r dudalen hon. Disgwylir i chi wirio’r dudalen hon o bryd i’w gilydd er mwyn sylwi ar unrhyw newidiadau yr ydym wedi eu gwneud, gan eich bod yn gaeth iddynt. Gall darpariaethau neu hysbysiadau a gyhoeddir mewn mannau eraill ar ein safle hefyd ddisodli’r darpariaethau a geir yn y telerau defnydd hyn.

Atebolrwydd

Cwmni Golwg Cyf sy’n atebol am gynnwys a ddarperir gan staff y cwmni ac sy’n cael ei gyhoeddi ganddynt. Grŵp llywio y gwefannau bro unigol sy’n gyfrifol am gynnwys a ddarperir gan eu cyfranogwyr nhw ac sy’n cael ei gyhoeddi ganddynt.

Cwynion a chywiriadau

Darllenwch ein cod ymddygiad a pholisi cwynion a chywiriadau am ragor o wybodaeth.

Eich ymholiadau

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau am y deunydd sy’n ymddangos ar ein safle.

Diolch am ymweld â’n safle.