Polisi preifatrwydd a chwcis

Darllenwch am ein defnydd o gwcis a data ar wefannau 360

Pwy ydym ni?

Mae Golwg360 yn wasanaeth newyddion a weithredir gan Golwg Cyf, gyda chymorth ariannol oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor Llyfrau Cymru.

Mae Bro360 yn gynllun i sefydlu rhwydwaith o wasanaethau newyddion bro trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cynllun yn cael ei reoli gan gwmni Golwg Cyf, a’i ariannu gan Gronfa Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru.

Pam rydym yn casglu data personol?

Mae gennym dri phrif ddiben ar gyfer casglu data personol, sef:

  • Darparu gwasanaethau megis tanysgrifiadau ac archebion
  • Galluogi unigolion i gyfrannu at rwydwaith o wefannau 360.cymru
  • Monitro a gwerthuso i wella’r wefan a’r prosiect
  • Cysylltu ynglŷn â newyddion a datblygiadau diweddaraf.

Bydd y data a ddarperir gennych yn cael ei ddefnyddio at y dibenion hyn yn unig. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir yn cael ei chadw’n gyfrinachol.

Gwerthusiad Bro360

Bydd gwaith monitro a gwerthuso prosiect Bro360 yn cael ei gyflawni gan ein partner annibynnol, Wavehill, a byddwn yn gofyn am eich caniatâd i rannu peth gwybodaeth gyda hwy yn unig ar gyfer hwyluso eu gwaith. Bydd Wavehill yn llunio adroddiad sy’n seiliedig ar y data ond ni fydd modd adnabod unrhyw unigolion ar sail yr adroddiad. Darllenwch hysbysiad preifatrwydd Wavehill.

Ymholiadau, hawl i wrthwynebu a chwynion

Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r gwerthusiad, mae croeso i chi gysylltu â naill ai Ioan Teifi, sef y prif gyswllt gyda Wavehill (0117 990281), neu Owain Schiavone, Bro360/Golwg Cyf (01570 423529). Os oes gennych ymholiadau ynghylch GDPR cysylltwch â Rheolwr GDPR Golwg Cyf, sef Owain Schiavone.
 
Gallwch hefyd gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru.
 
Dan y ddeddfwriaeth newydd yn ymwneud â diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael mynediad at eich data personol a gedwir gan Golwg, Bro360 a/neu Wavehill
  • i’w gwneud yn ofynnol i Golwg, Bro360 a/neu Wavehill gywiro unrhyw gamgymeriadau sydd yn y data hwnnw
  • i wrthwynebu (mewn rhai amgylchiadau) neu gyfyngu ar brosesu
  • i’ch data gael ei ‘ddileu’ (mewn rhai amgylchiadau).

Cysylltwch ag Ioan Teifi os gwelwch yn dda os ydych yn dymuno gwneud unrhyw un o’r pethau hyn mewn perthynas â gwerthusiad Bro360 hwn. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch y ffordd y mae eich data wedi cael ei drin, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sy’n rheoleiddiwr annibynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu data. Gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545745 neu 0303 123 1113, drwy eu gwefan, neu ysgrifennwch at: Information Commissioner, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.

Pa ddata personol rydym yn ei gasglu?

Cyfrifon a thanysgrifiadau

Er mwyn creu cyfrif ar ein safleodd, bydd angen darparu eich enw llawn a chyfeiriad ebost (neu gyfrif rhwydwaith cymdeithasol). Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i gysylltu â chi gyda gwybodaeth hanfodol am eich cyfrif. Yn ogystal, gallwch ddewis derbyn cylchlythyron ebost, gosod llun proffil, a gosod lleoliad daearyddol er mwyn gweld cynnwys lleol. Pan yn tanysgrifio i gyhoeddiad, byddwn yn casglu gwybodaeth ychwanegol er mwyn darparu’r tanysgrifiad, megis eich cyfeiriad.

Cyfranu erthyglau, sylwadau a chynnwys arall

Pan fydd ymwelwyr yn cyfrannu cynnwys, gadael sylwadau neu yn anfon negeseuon atom drwy’r wefan rydym yn casglu’r data sy’n cael ei ddangos yn y ffurflen ac hefyd cyfeiriad IP a llinyn asiant porwr yr ymwelydd er mwyn cynorthwyo i ganfod sbam ac adnabod problemau technegol.

Ffeiliau cyfrwng

Os ydych yn llwytho delweddau i’r wefan, dylech osgoi llwytho delweddau sy’n cynnwys data lleoliad GPS EXIF wedi ei fewnblannu. Gall ymwelwyr â’r wefan lawrlwytho a darllen unrhyw ddata lleoliad o ddelweddau ar y wefan.

Cwcis

Os oes gennych gyfrif ac yn mewngofnodi i’r wefan hon, byddwn yn gosod cwci dros dro er mwyn penderfynu os yw eich porwr yn derbyn cwcis. Nid yw’r cwci yma’n cynnwys unrhyw ddata personol a bydd yn cael ei ddileu pan fyddwch yn cau’r porwr.

Pan fyddwch yn mewngofnodi, byddwn hefyd yn gosod nifer o gwcis i gadw eich manylion mewngofnodi a’ch dewisiadau. Mae cwcis mewngofnodi yn para am bythefnos a chwcis dewisiadau yn para am flwyddyn. Os byddwch yn allgofnodi o’ch cyfrif, bydd y cwcis mewngofnodi’n cael eu dileu.

Wrth gofrestru, mewngofnodi, tanysgrifio neu archebu ar y wefan hon rydych chi’n derbyn y defnydd hyn o gwcis er mwyn gallu cyflawnu’ch gweithredoedd.

Os byddwch yn golygu neu’n cyhoeddi erthygl, bydd cwci ychwanegol yn cael ei gadw yn eich porwr. Nid yw’r cwci yn cynnwys unrhyw ddata personol, ac mae’n dangos dynodiad cofnod yr erthygl rydych newydd ei golygu. Daw i ben ar ôl un diwrnod.

Mae ein system hysbysebion yn gosod cwcis sy’n hanfodol i weithrediad y meddalwedd, ond nid ydynt yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol, nac yn olrhain eich ymweliadau na’ch gweithredoedd ar y wefan.

Gallwch ddefnyddio gosodiadau eich porydd i reoli neu atal cwcis.

Cynnwys wedi ei fewnosod o wefannau eraill

Gall erthyglau ar y wefan hon gynnwys fideos, seiniau, delweddau, erthyglau, polau piniwn, ac ati, sydd wedi eu mewnosod o wefannau eraill, sy’n ymddwyn yn yr un ffordd â phetai’r ymwelydd wedi ymweld â’r wefan arall.

Gall y gwefannau hyn fod yn casglu data amdanoch chi, defnyddio cwcis, mewnblannu tracio trydydd parti ychwanegol, a monitro eich rhyngweithio gyda’r cynnwys sydd wedi ei fewnblannu.

I reoli’r cwcis hyn, a defnydd gwefannau eraill o’ch data, gosodwch eich porydd i atal neu ganiatáu cwcis trydydd parti.

Dadansoddi gwe

Rydym yn defnyddio system ystadegau Matomo i gasglu gwybodaeth am y ffordd y mae pobl yn defnyddio’r wefan, er mwyn gwella’r gwasanaeth. Bydd y system yn cofnodi gwybodaeth am eich ymweliad (fel yr amser a’r URL), gwybodaeth am eich dyfais (fel maint y sgrîn a rhan o’r rhif IP) a gwybodaeth am eich cyfrif (os ydych chi wedi mewngofnodi neu beidio, er enghraifft). Ni fydd unrhyw gwcis yn cael eu gosod, ac ni fydd modd olrhan unrhyw ddata i chi’n bersonol.

Mae ein gweinydd gwe yn cofnodi gwybodaeth craidd am bob cais i’r wefan, fel llinyn asiant y porwr a rhif IP, at ddibenion mesur traffig a datrys problemau technegol.

Gyda phwy rydym yn rhannu eich data?

Os byddwch chi’n cyfrannu cynnwys i un o’n safleoedd, bydd eich manylion cyswllt yn cael eu rhannu gyda thîm golygyddol y safle honno er mwyn iddynt allu delio gydag unrhyw ymholiadau golygyddol ynglŷn â’ch cyfraniad, ac hefyd o bosib er mwyn anfon negeseuon hanfodol achlysurol ynglŷn â pholisi a llywodraethiant y safle.

Os byddwch chi’n tanysgrifio i deitl nad sy’n cael ei gyhoeddi gan Golwg Cyf (papur bro, er enghraifft), bydd eich manylion cyswllt yn cael eu rhannu gyda chyhoeddwyr y teitl dan sylw, er eu gwybodaeth.

Fel arall, ni fydd unrhyw ddata personol yn cael ei drosglwyddo i, na’i rannu gydag, unrhyw un arall oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd penodol i ni wneud hynny.

Am ba mor hir rydym yn cadw eich data?

Os byddwch yn gadael sylw, bydd y sylw a’i feta data yn cael ei gadw am byth. Mae hyn er mwyn i ni adnabod a chymeradwyo unrhyw sylwadau sy’n dilyn yn awtomatig yn lle eu dal yn y ciw cymedroli.

Ar gyfer defnyddwyr sy’n cofrestru ar ein gwefan, rydym hefyd yn cadw’r manylion personol maen nhw’n ei ddarparu yn eu proffil defnyddiwr. Gall pob defnyddiwr weld, golygu neu ddileu eu manylion personol ar unrhyw adeg. Gall gweinyddwr gwefan hefyd weld a golygu’r manylion hynny.

Pa hawliau sydd gennych dros eich data?

Os oes gennych gyfrif neu os ydych wedi gadael sylwadau ar y wefan hon, gallwch ofyn i gael derbyn ffeil wedi ei hallforio o’r data personol rydym yn eu dal amdanoch chi, gan gynnwys unrhyw ddata rydych wedi eu darparu i ni. Gallwch hefyd ofyn i ni ddileu unrhyw ddata personol rydym yn eu dal amdanoch chi. Nid yw hyn yn cynnwys data rydym yn rhwymedig i’w cadw am ddibenion gweinyddol, cyfreithiol neu ddiogelwch. Cysylltwch â ni gan nodi “cais data personol” yn eich neges.

I ble rydym yn anfon eich data?

Efallai bydd sylwadau ymwelwyr yn cael eu gwirio drwy wasanaeth canfod sbam awtomatig.