Cod ymddygiad, cywiriadau a chwynion

Sut a phryd i gysylltu â ni er mwyn gwneud cwyn neu gywiriad

Cod ymddygiad

Mae Golwg Cyf yn dilyn y Cod Ymarfer Golygyddion Sefydliad Annibynnol Safonau’r Wasg (IPSO).

Mae hwn yn god a dderbynnir yn eang, ac y mae nifer o gyfryngau Cymru, Prydain a rhanbarthol yn ei ddilyn.

Gallwch ddarllen Cod y Golygyddion yn llawn ar wefan IPSO.

Os ydych yn teimlo ein bod wedi torri’r cod hwn, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl.

Gallwn ystyried eich cwyn os ydych:

  • wedi eich effeithio’n bersonol ac yn uniongyrchol gan achos honedig o dorri’r Cod;
  • yn grŵp cynrychioliadol yr effeithir arno gan achos honedig o dorri’r Cod, lle mae budd cyhoeddus yn eich cwyn;
  • yn drydydd parti sy’n ceisio sicrhau cywirdeb gwybodaeth a gyhoeddwyd.

Gwneud cwyn

Mae Golwg Cyf wedi ymrwymo i weithio o fewn Cod Ymarfer Golygyddion IPSO a glynu wrth y cod ymarfer.

Fodd bynnag, os bydd unrhyw berson yn teimlo ein bod wedi torri’r cod mewn unrhyw ffordd ac yn dymuno gwneud cwyn, cyflwynwch eich cwyn, yn ysgrifenedig at sylw’r golygydd (ymholiadau@golwg.com) yn unol â’r camau canlynol:

  1. Rhaid i bob cwyn gynnwys enw a dyddiad y cyhoeddiad, gan gyfeirio at yr erthygl benodol dan sylw.
  2. Dylech gynnwys URL yr erthygl os yw’n bosibl, a/neu ddolen i unrhyw ddelwedd neu fideo.
  3. Disgrifiad manwl o’r gŵyn, gan gyfeirio at eiriau, ymadroddion, delweddau, enghreifftiau, dyddiadau a chofnodion penodol sy’n berthnasol, a pha gymalau o’r Cod Ymarfer Golygyddion rydych chi’n credu bod y cyhoeddiad wedi’u torri.

Fel arall, gallwch ysgrifennu atom yn y cyfeiriad canlynol:

Cwmni Golwg
Blwch Post 4
Llanbedr Pont Steffan
SA48 7LX

Y broses gwyno

  • Bydd y golygydd yn cadarnhau derbyn y gŵyn o fewn saith diwrnod gwaith drwy gysylltu â’r achwynydd dros e-bost.
  • Ymdrinnir â phob cwyn gan olygydd y cyhoeddiad a gyhoeddodd yr erthygl, a/neu gyflogwr yr unigolyn a enwir.
  • Bydd y golygydd yn ymchwilio i’r gŵyn hyd y gorau o’i allu, mewn perthynas â’r Cod Ymarfer Golygyddion, ac yn ymateb yn unol â hynny.
  • Os byddwn yn cadarnhau eich cwyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi am y camau adferol a gymerwyd neu sydd i’w cymryd.

Cyfrinachedd

Bydd yr holl wybodaeth a ddarperir i Golwg Cyf yn cael ei thrin yn gyfrinachol, yn sensitif ac yn unol â Deddf Diogelu Data 2018.