Hygyrchedd

Ein polisi i greu gwefan hawdd ei defnyddio i bawb

Rydym wedi ceisio gwneud y wefan hon mor hygyrch ag y gallwn ni i bawb.

Y man cychwyn oedd ufuddhau i ganllawiau Blaenoriaeth 1 WCAG ond rydym hefyd wedi ychwanegu rhai elfennau o Flaenoriaethau 2 a 3 hefyd.

Wrth ddatblygu diwyg a threfn y wefan, roedden ni eisiau gwneud yn siwr ei fod yn hawdd ei ddefnyddio i bobol gydag anawsterau gweld. Mae’n gallu gweithio gyda darllenwyr sgrin ac mae modd symud o le i le heb ddefnyddio llygoden nac allweddell. Y cyfan sydd ei angen yw defnyddio’r tab i fynd o linc i linc cyn pwyso enter.

Y nod yw defnyddio iaith glir ac mae’n bosib dewis geiriau gyda phob llun. Gallwch chithau ddewis rhwng tair lefel o wahaniaeth lliw a thri maint o ran llythrennau. Mae’r lliwiau i gyd wedi eu profi.

Byddwn yn ceisio cyhoeddi’r cynnwys ar ffurf HTML hygyrch yn hytrach na fformatau eraill, megis PDF. Ond dylai’r rheiny hefyd fod mor hygyrch â phosib.

Os byddwch yn cael anawsterau wrth ddefnyddio’r wefan, cysylltwch â ni ar unwaith. Bydd eich sylwadau yn help i ni wella’r wefan ymhellach er lles pawb.