Mae’r awdures Heiddwen Tomos yn hen law ar ddelio gyda themâu tywyll gyda hiwmor yn ei nofelau, ac mae hyn yn wir hefyd o’i nofel newydd, I’r Hen Blant Bach.
Yr wythnos hon cyhoeddir atgofion y cymeriad unigryw Goronwy Evans o Lanbed. Mae Procio’r Cof (Y Lolfa) yn cynnwys hanesion di-ri am gymeriadau a digwyddiadau ardal Llanbedr Pont Steffan a thu hwnt.
“Un hael ei gymwynas yw Glan ac mae cymaint o achosion da wedi elwa o’i amser, ei egni a’i hiwmor. Mae’n arwerthwr heb ei ail ac wedi cynnal nifer o ocsiynau i godi arian dros wahanol fudiadau. Ac mae Glan yn llwyddo i gael punt ychwanegol allan o Gardi bob tro. Ei dalent yw adnabod ei bobl, a gwybod sut mae eu parchu a’u pryfocio ar yr un pryd.” Elin Jones AS